> Nesta Young > Rheolwr Gweinyddu Busnes
Ymunodd Nesta gyda 4Ward Development pan y’i sefydlwyd yn 2009. Mae ganddi dros 35 mlynedd o brofiad fel cynorthwyydd personol a gweinyddwr ac mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau ledled de Cymru gan gyflawni amryw o swyddogaethau hanfodol.
Treuliodd Nesta dros 27 mlynedd yn perffeithio ei sgiliau aml-dasgio a rheoli swyddfa gyda Barclays ac mae’n ymfalchïo yn ei doniau TG rhagorol a’i sylw at fanylion.
Fel gweithiwr gwirfoddol brwd, helpodd Nesta i sefydlu grŵp gwirfoddoli Barclays. Mae eu gweithgareddau’n amrywio o baentio neuadd ysgol yng Nghasnewydd i dywys plant dall a rhanol ddall ar wibdeithiau i lan y môr.
|